Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Medi 2014
Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil Cynllunio
(Cymru)
1. Ar 6 Hydref 2014, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Cynllunio (Cymru)’, ei gyflwyno yn y Cynulliad.
2. Ar 16 Medi 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, er mwyn iddo ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.
3. Ar 23 Medi 2014, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 30 Ionawr 2015.
4. Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 27 Mawrth 2015, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.